News Title

Datganiad I’r Wasg  -  Lawnsiad AJT (Mr Producer)

DATGANIAD I'R WASG EMBARGO DYDD MERCHER 29 HYDREF CANOL NOS


Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth Cancr y Pancreas


Elusen Cancr y Pancreas yn cyfrannu swm chwe ffigwr i ariannu ymchwil arloesol Bôn-gelloedd

Mae elusen cancr pancreas Cymru, Amser Justin Time, a sefydlwyd yn 2008 gan Shân Cothi, wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn yn y frwydr yn erbyn cancr y pancreas. Bydd y swm chwe ffigwr yn cael ei dalu dros gyfnod o ddwy flynedd i ariannu gwaith ymchwil cancr y pancreas yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Cancr Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Shân Cothi am y rhodd: "Mae'n fraint i allu cyfrannu swm chwe ffigwr yn enw Justin i hyrwyddo ymchwil ym maes cancr y pancreas. Mae cancr y pancreas yn un o'r clefydau dychrynllyd sy’n dioddef o gyfraddau goroesi isel o ganlyniad i ddiffyg ariannu a diffyg ymchwil. Y gobaith yw y bydd cyfraniad sylweddol AJT yn gwneud gwahaniaeth.” Collodd Shân ei gŵr i gancr y pancreas yn 2007 ac o ganlyniad i’w cholled a'i hymroddiad i ymladd y clefyd, sefydlodd elusen er cof am Justin. Ychwanegodd Shân "Rydym wedi bod yn ceisio dod o hyd i brosiect sy wedi'i anelu'n benodol at gancr y pancreas ers amser, felly, pan ddaeth y cyfle i weithio mewn partneriaeth gydag Athrofa Prifysgol Caerdydd, roedd y prosiect yma yn gweddu’n berffaith. Wedi’r cyfan fe anwyd elusen Amser Justin Time o ganlyniad i ddiffyg ymchwil ym maes cancr y pancreas.”

Bydd cant y cant o'r arian y mae'r elusen yn rhoi i'r Sefydliad, sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn cael ei wario ar sicrhau dyfodol yr ymchwil sylfaenol hyn, drwy ariannu gwaith ymchwil canser pancreatig Dr Sean Porazinski ymhellach. Cyfraniad ariannol ‘Amser Justin Time’ yw'r rhodd mwyaf a dderbyniwyd gan y Sefydliad yn benodol ar gyfer ymchwil i gancr y pancreas.

Mae Dr Porazinski yn cynnal ei ymchwil o fewn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, ac yn gweithio o dan Cymrawd Ymchwil Dr Catherine Hogan. Dywedodd Dr Hogan, “Roedd trefniant cyllidol blaenorol Dr Porazinski yn dod i ben pan dderbyniom y rhodd gan Amser Justin Time, felly roedd yn amserol iawn. Mae Dr Porazinski wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn sefydlu system arbrofol newydd yn y labordy i astudio canser pancreatig cynnar. Mae’r rhodd hwn yn caniatáu i ni ymestyn contract Dr Porazinski ac adeiladu ar ei waith diweddar i ddatblygu’r prosiect hwn ymhellach. Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at ein dealltwriaeth ynghylch sut mae canser pancreatig yn dechrau, a all, yn ei dro, arwain at offer diagnostig newydd.”

Sefydlwyd y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn 2012, ac ers hynny mae wedi denu ymchwilwyr o’r radd flaenaf i fod yn rhan ohono. Mae dros 50 o wyddonwyr yn y labordy yng Nghaerdydd - pob un ohonynt â nod a chred gyffredin – sef mai bôn-gell canser sy’n gyfrifol am aildyfiant a lledaeniad tiwmorau canseraidd. O dargedu’r bôn-gell canser yn benodol, mae siawns gwell y gellir atal y canser. “Wrth gwrs, nid yw mor syml â hynny,” meddai’r Athro Alan Clarke, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd. “Rydym ni wedi canfod bod gan fôn-gelloedd canser y gallu i newid a datblygu i fod yn fathau eraill o gelloedd, felly mae gwaith yn parhau ar ymagwedd fwy cyfannol, ac mae deg tîm ymchwil gwahanol yn canolbwyntio ar wahanol ganserau, o ganser y fron a chanser y coluddyn, i ganser yr ymennydd a chanser y gwaed.

“Ar hyn o bryd, mae gan gancr y pancreas un o’r cyfraddau goroesi pum mlynedd isaf yn Ewrop,” meddai’r Athro. “Mae’n hynod anodd rhoi diagnosis hyd nes ei bod hi bron yn rhy hwyr i’r claf. Rydym yn benderfynol o helpu i newid hyn ac rydym yn dibynnu ar roddion, fel y rhodd gan Amser Justin Time. Mae’n anrhydedd derbyn y rhodd sylweddol hon, yn enwedig oddi wrth elusen leol.”

Mae derbynnydd y rhodd, Dr Porazinski, yn falch iawn ei fod yn gallu parhau â’i ymchwil yn y Sefydliad, diolch i’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Amser Justin Time.

“Gan taw cancr y pancreas yw un o’r mathau mwyaf ymosodol o’r clefyd mae’n her aruthrol i ddeall y clefyd ac felly rwy’n falch iawn fy mod yn gallu parhau gyda’r gwaith hanfodol yma yng Nghaerdydd. Yn y pen draw, ein nod yw cyfrannu at sefydlu diagnosis o gancr pancreatig cynnar a chwilio am ffyrdd i ddatblygu therapïau newydd a fydd o fudd uniongyrchol i’r cleifion sy’n dioddef o’r cyflwr hwn.”

Roedd Shân eisiau rhoi neges arbennig i gefnogwyr Amser Justin Time:

"Alla’i ddim diolch digon i chi. Heb eich cymorth, cefnogaeth a’ch anogaeth yn ystod y chwe mlynedd diwethaf, byddai hyn ddim wedi bod yn bosib. Mae ein taith yn parhau ac rwy'n gobeithio wir y bydd eich cefnogaeth yn aros gyda ni. Felly, os gwelwch yn dda, daliwch ati i redeg milltiroedd, i garlamu dros dirwedd Cymru ac i goncro’r mynyddoedd mawr, oherwydd gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth! "

Parhaodd Shân gyda neges at y rhai sy'n derbyn y cyllid:

"Ar ran Amser Justin Time a phawb sy’ wedi cefnogi’r elusen a chyfrannu mor hael dros y chwe mlynedd ddwethaf, I ni’n dymuno pob hwyl i Dr Sean Porazinski a Dr Hogan gyda'u gwaith ac rydym yn edrych ymlaen at ddysgu llawer mwy am y maes arloesol yma ym myd ymchwil bôn-gelloedd cancr."

DIWEDD - NODIADAU I’R GOLYGYDD ISOD

Cyswllt y wasg: Lydia Jones Cyfarwyddwr PR + Digwyddiadau MR PRODUCER lydia@mrproducer.co.uk 07815 902015 / 02920 916667

Back